Introduction to PocketMedic Lymphoedema Films
Beth yw Lymffoedema?
‘Beth?’ yw e. ‘Pam?’ fi. ‘Ble?’ yn fy nghorff. ‘Sut?’ fydda i’n ymdopi. Mae’r ffilm agoriadol hon yn helpu i roi ateb cyflym i bryderon cleifion sydd newydd gael diagnosis.
what is lymphoedema, self-management, swelling, information
Cellulitis
Dysgwch mwy am cellulitis a sut i’w adnabod a’i reoli. Byddwch yn cyfarfod â phobl fydd yn gallu dangos ichi sut mae’n edrych a hefyd â grŵp o bobl sy’n dysgu sut orau i reoli achosion ohono sy’n digwydd dro ar ôl tro. Y newyddion da yw y gall hunanreolaeth dda wneud gwahaniaeth go iawn.
Mae’r Athro Keith Harding yn siarad am yr heriau wrth wneud diagnosis. Mae Cymdeithas Lymffoleg Prydain wedi cynhyrchu’r “Llwybr Coesau Coch” hwn i helpu i ddeall sut orau i adnabod a rheoli cyflwr a all edrych yn debyg i cellulitis. Gallai fod yn ddefnyddiol er mwyn ceisio canfod a oes coesau coch neu cellulitis gennych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdano.
lymphoedema, cellulitis, treatment, antibiotics
Diwrnod Antur Lymff
Mae plant yn eu harddegau ac oedolion ifanc yn cyfarfod am ddiwrnod i rannu profiadau a syniadau. Tyfodd Hollie i fyny gan feddwl mai hi oedd un o’r unig bobl â lymffoedema. Nid oedd Ellie yn adnabod unrhyw un arall chwaith ac mae Ceri-Anne yn edrych am ragor o sgyrsiau grŵp. Byddwch yn cyfarfod â chriw hwyliog sy’n barod i rannu eu straeon. Gallwch gysylltu hefyd drwy dudalen Facebook Rhwydwaith Lymffoedema Cymru.
lymphoedema, children, activities, support
Dosbarth ymarfer corff - rhan uchaf y corff
Dosbarth ymarfer corff wedi’i gynllunio ar gyfer cleifion â Lymffoedema ar ran uchaf y corff.
lymphoedema, exercise, arms, activity
Dosbarth ymarfer corff – rhan isaf y corff
Dosbarth ymarfer corff wedi’i gynllunio ar gyfer cleifion â Lymffoedema ar ran isaf y corff.
lymphoedema, exercise, legs, activity
Draeniad Lymffatig Syml ar gyfer rhannau uchaf y corff
Mae claf sydd â Lymffoedema ar ran uchaf y corff yn dysgu sut i hunanddylino drwy Ddraenio Lymffatig Syml er mwyn symud y lymff i ffwrdd o ddraeniau sydd wedi blocio.
lymphoedema, lymphatic drainage, upper body
Draeniad Lymffatig Syml ar gyfer rhannau isaf y corff
Mae claf sydd â Lymffoedema ar ran isaf y corff yn dysgu sut i hunanddylino drwy Ddraenio Lymffatig Syml er mwyn symud y lymff i ffwrdd o ddraeniau sydd wedi blocio.
lymphatic drainage, upper body, lower body, lymphoedema
Ffilm hyfforddiant Nyrsio Cymunedol –
stori Robert
Ffilm addysgiadol i nyrsys ardal sy’n dangos y driniaeth briodol a pha mor effeithiol yw hi ar gyfer heintiau’r croen hyd yn oed yn yr achosion mwyaf difrifol.
lymphoedema, cellulitis, treatment, bandaging
Fy Lymffoedema i – Safbwynt Plentyn
Weithiau mae plant yn ei chael hi’n anodd mynegi eu teimladau am y profiad o gael lymffoedema. Yn y ffilm hon mae tri phlentyn sy’n byw gyda lymffoedema yn trafod materion sy’n gyffredin i lawer.
lymphoedema, self-management, children, garments
Gofal Croen
Mae’r 1af o 4 nodwedd bwysig yn egluro sut mae rhywun yn debygol o gael llid yr isgroen, y ffactorau risg cysylltiedig, a sut i ofalu am y croen er mwyn lleihau’r risgiau hynny.
lymphoedema, skin care, moisturising, information
Lleihau’r Risg o Lymffoedema
Pam mae rhai pobl â mwy o risg nag eraill o’i ddatblygu a beth y gellir ei wneud i ‘ch amddiffyn ar ôl cael llawdriniaeth am ganser, a allai eich gwneud chi’n fwy agored iddo.
lymphoedema, cancer, risk, clinic
Llwybr Coes Wlyb
Llwybr Coes Wlyb ar gyfer oedema cronig. Mae modd i gleifion gael cymorth effeithiol drwy ddefnyddio rhwymynnau pan fydd ganddynt oedema cronig neu “goes wlyb”. Ceir tair lefel o gymorth. Mae’r ffilm hon yn mynd trwy bob lefel gyda help Robert, claf cefnogol iawn (!) ac yn egluro pam a phryd y dylid eu defnyddio.
wet leg pathway, lymphoedema, bandaging, circulation
LVA
Golwg ar dechneg lawfeddygol uwch micro, Anastamosis Lymffatig Gwythiennol , gan ddilyn dau glaf wrthi’n cael eu hasesu i weld a ydynt yn addas, a’r llawdriniaeth ei hunan.
LVA, operation, surgery, Lymphatic Venous Anastamosis
Lymffoedema a Gwyliau
Animeiddiad bywiog sy’n cyflwyno’r hyn y dylech ac na ddylech ei wneud wrth ofalu am y croen a rhwymynnau cywasgu ar wyliau.
lymphoedema, holiday, garments, flight
Lymffoedema a theuluoedd
Yr her gyntaf i deuluoedd sydd â phlant yr effeithir arnynt gan lymffoedema yw cael y diagnosis cywir. Mae’r ffilm hon yn cydnabod beth yw rhai o’r heriau a wynebir gan rieni ac yn clywed am brofiadau plant o bob oed.
lymphoedema, families, diagnosis, support
MLD ar waith
Yma cewch weld beth sy’n digwydd o dan y croen pan fyddwch yn gwneud Draeniad Lymffatig â’r Dwylo (MLD). Mae arbenigwyr gofal lymffoedema yn dod ynghyd o bob rhan o’r DU i weld technoleg sganio ar waith. Mae’n agoriad llygad iddyn nhw ac i’w cleifion.
manual lymphatic drainage, MLD, lymphoedema, treatment
Rhwymynnau Cywasgu
Mae’r drydedd nodwedd bwysig yn egluro sut a pham mae cywasgu yn helpu i leihau’r chwyddo, ac mae gan bobl sydd â phrofiad o rwymynnau cywasgu hanesion difyr i’w rhannu i leihau’r profiad brawychus hwnnw!
lymphoedema, compression, bandages, swelling
The Lymphoedema Network Wales
lymphoedema, films, introduction, clips
Therapi Pwmp (IPC)
3 chlaf sy’n defnyddio therapi pwmp fel rhan o’u triniaeth ar gyfer lymffoedema.
lymphoedema, swelling, reduce, compression pump,
Yr hwyl o Ymarfer y Corff
Mae’r ail nodwedd bwysig yn egluro sut a pham mae symud y corff yn cadw’r lymff i symud ac yn dangos ymarferion syml i’w gwneud gartref i rannau uchaf ac isaf y corff.
lymphoedema, exercise, activity, swelling