Gyda Phodiatreg FE ALLWCH
Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn byw gyda dementia, efallai y gallech chi gael budd o Bodiatreg. Gall Podiatreg helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol a symudol trwy ofalu am iechyd y traed. Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn i ddysgu am Bodiatreg a rhai awgrymiadau defnyddiol ar ofalu am iechyd eich traed. Mae rhagor o adnoddau ar gael drwy sganio’r cod QR ar ddiwedd y fideo, neu drwy ddilyn y ddolen hon: https://linktr.ee/Dementia_Podiatry
feet, foot, nails, podiatrist
Gyda Therapi Galwedigaethol FE ALLWCH
Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn byw gyda dementia, efallai y gallech chi gael budd o Therapi Galwedigaethol. Mae therapi galwedigaethol yn gwella iechyd a lles trwy eich helpu i gymryd rhan yn y pethau rydych chi eisiau ac angen eu gwneud yn eich bywyd bob dydd. Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn i ddysgu mwy am Therapi Galwedigaethol. Mae rhagor o adnoddau ar gael drwy sganio’r cod QR ar ddiwedd y fideo, neu drwy ddilyn y ddolen hon: https://linktr.ee/Dementia_Occupation…
balance, independence, physical
Gyda Deietegwyr FE ALLWCH
Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn byw gyda dementia, efallai y gallech chi gael budd o Ddeieteg. Bydd deietegwyr yn gweithio gyda chi i wella iechyd a lles trwy ddarparu gwybodaeth am y maeth cywir i chi. Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn i ddysgu mwy am Ddeieteg. Mae rhagor o adnoddau ar gael drwy sganio’r cod QR ar ddiwedd y fideo, neu drwy ddilyn y ddolen hon: https://linktr.ee/Dementia_Dietetic
dietitian, eating, drinking, food
Gyda Therapi Iaith a Lleferydd FE ALLWCH
Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn byw gyda dementia, efallai y gallech chi gael budd o Therapi Iaith a Lleferydd. Mae therapi iaith a lleferydd yn gwella iechyd a lles trwy eich helpu i gyfathrebu a llyncu. Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn i ddysgu mwy am Therapi Iaith a Lleferydd. Mae rhagor o adnoddau ar gael drwy sganio’r cod QR ar ddiwedd y fideo, neu drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.rcslt.org/speech-and-lang…
speech, language, swallow, communicate