ADOLYGIAD O'R GYFRES
Yn wreiddiol cafodd y ffilm hon eu gwneud er mwyn apelio am gymorth i greu cyfres o ffilmiau i rannu profiad fy rhieni Clive a Pauline Jenkins wrth iddyn nhw ymlwybro ar hyd taith dementia. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, dan arweiniad Julie Denley, wedi bod yn wych yn darparu cyllid inni. Gyda’r tîm o Gwm Taf Morgannwg a chefnogaeth ATiC daethom yn un o Brosiectau Cyflymu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Erbyn hyn diweddarwyd y ffilm hon yn gyfres o ddeg ffilm er mwyn cefnogi’r gwaith o hyfforddi gofalwyr a theuluoedd pobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia. Byddai’n ddefnyddiol gwylio hon cyn edrych ar y gyfres gyfan.
dementia, lived-experience, review of series, fixed cameras,
DEALL DEMENTIA
Cyflwyniad cyntaf i dreialon Byw gyda Dementia. Cewch gyfarfod â’r arbenigwyr a fydd yn ein harwain ni ac yn rhannu eu profiadau a’u hymchwil nhw i’r cyflwr.
what is dementia, lived-experience, retinal-screening technology, information,
DEMENTIA A DIOGELWCH
Yn y ffilm hon rydym yn trafod beth yn union y mae diogelwch yn ei olygu i bobl sy’n byw gyda dementia a sut orau i’w cefnogi nhw. Ymddengys ei fod yn ymwneud â sicrhau cydbwysedd da. Mae yma lawer o bethau i gnoi cil arnynt!
dementia, lived-experience,safety, danger,
Y GWIRIONEDD
Codir llawer o gwestiynau ynghylch canfyddiad, teimladau a sut y cânt eu mynegi. Mae Nick Johnson yn cynnig cyngor da ar sut i ymateb i rywun sy’n ypset. Mewn gwirionedd mae’n gyngor defnyddiol ar sut i ymateb i unrhyw un sy’n ypset!! Mae’r Athro Andrea Tales a’r Athro Jeremy Tree yn ein helpu ni i ddeall beth sy’n digwydd y tu mewn i’r ymennydd ac yn siarad am y cof, yn enwedig y gwahaniaeth rhwng y cof o ddydd i ddydd a’r atgofion sydd gennym am flynyddoedd lawer yn ôl.
dementia, lived-experience, truth, perception,
DICTER
Pan fyddwch yn gwylio’r ffilm hon mae’n bwysig cofio nad yw pawb â dementia yn profi dicter yn y modd hwn. Mae profiad pawb o ddementia yn wahanol. Fodd bynnag, os ydych yn wynebu rhywun sy’n ofnadwy o ypset, yna mae’r ffilm yn cynnig dulliau o ddelio â’r gofid ac yn rhoi rhyw syniad ichi am sut y gallai’r digwyddiad fod wedi dechrau. Gall hefyd fod yn galonogol iawn gweld pa mor gyflym y gall popeth gael ei anghofio. Fel y disgrifir ar ddiwedd y ffilm, mae adnoddau am ddim ar gael i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol o wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW). Dyma ffilm ragarweiniol gan Claire Smith o AaGIC yn sôn am yr hyn sydd ar gael: http://www.medic.video/heiw-hcp Mae llawer o’r adnoddau hyn hefyd ar gael i’r cyhoedd, felly mae’n bendant yn werth eu harchwilio.
dementia, lived-experience, anger, advice,
CANFYDDIAD GWELEDOL
Mae’r Athro Andrea Tales yn siarad am sylw gweledol a’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n byw gyda dementia. “Nid y cof yn unig sy’n dirywio, ond y gallu i brosesu gwybodaeth.” Fyddwch chi ddim yn prynu crysau siec ar ôl gwylio’r ffilm hon.
dementia, lived-experience,visual disturbance, patterns,
PROSESS
Mae’r ffilm hon yn datblygu rhai o’r syniadau a gafwyd yn ffilm 5 am sylw a chanfyddiad gweledol. Ceir cyngor da ar ddulliau o gefnogi pobl i gario ymlaen i wneud yr hyn a allant. Mae Dr Jane Mullins yn cyflwyno’r syniad o “rementia” – sef datblygu’r hyn y mae pobl yn dal i allu ei wneud yn hytrach na phwysleisio’r hyn na allant ei wneud mwyach. Ar ôl gwylio’r ddwy ffilm ar ganfyddiad gweledol a phroses, tynnodd yr Athro Tree ein sylw at is-amrywiolyn o Glefyd Alzheimer’s a elwir yn Atroffi Coritgol Pen-ôl (PCA), yr hyn y cafodd Terry Pratchett brofiad ohono. Mae’n golygu bod gan berson lai o broblem gyda’r cof a mwy o broblem gyda’r gallu i ganolbwyntio ei sylw. Mae’r Athro Tee hefyd yn nodi’r gwahaniaeth rhwng “gweld” a “gwybod” sy’n annelwig iawn yn y byd go iawn fel y gwelwn yn y ffilmiau. Y termau technegol yw agnosia “cysylltiadol” (sy’n gysylltiedig â dealltwriaeth) ac agnosia “cyfarganfod” (anhawster adnabod canfyddiad gweledol).
dementia, lived-experience,process, advice,
GORBRYDER
Os ydych yn gofalu am rywun sy’n orbryderus iawn yna mae gan y ffilm hon lawer o strategaethau sy’n cynnig cefnogaeth. Un enghraifft yw mynd ar daith i lawr lôn atgofion. Roedd yn rhaid i fi ddefnyddio’r llun hwn o fy nhad, Clive, yn sgïo ar y dŵr ym mae Pwll Du yn y 1950au – Edrychwch! Dim dwylo!!
dementia, lived-experience, anxiety, advice,
SUNDOWNING
Mae’r ffilm hon yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn ffilm 7 ac yn ein cyflwyno ni i Rose Kasongo sydd wedi gofalu am bobl â dementia datblygedig ers blynyddoedd lawer. Gwnewch yn siŵr fod gennych bapur a phensil wrth law…
dementia, lived-experience, sun-downing, advice,
BWYTA AC YFED
Canllaw ymarferol iawn i fwyta ac yfed. Unwaith eto – llawer i’w ddysgu am bwysigrwydd hydradu a pheryglon tewhau hylifau…!
dementia, lived-experience, eating, drinking,
BETH YW'R PWYNT?
Rwy’n credu ein bod yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwn yn ein calon cyn inni hyd yn oed ddechrau gwylio’r ffilm hon. Fodd bynnag, gellid maddau i’r person mwyaf amyneddgar am ofyn hyn i’w hunan o bryd i’w gilydd. Dyma’r ffilm olaf yn y gyfres, ond gobeithio mai dyma’r gyntaf mewn sawl cyfres o ffilmiau cefnogol y gallwn ni eu gwneud i ddod â heriau gofalu yn fyw. Gobeithio y bydd yn dechrau sgwrs bwysig am y ffordd yr ydym yn gofalu am ein gilydd, gan gynnig cipolwg a thrafodaeth am sut orau i fyw yn dda gyda dementia. Wedi’r cyfan, dyna oedd pwrpas y ffilmiau hyn. Diolch am wylio.
dementia, lived-experience,support, quality of life,